YMCHWILIAD Y PWYLLGOR MENTER A BUSNES

HELPU POBL IFANC I GAEL GWAITH

TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG

 

 

CEFNDIR

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu’r holl bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru a’u denu i gyfranogi.  Cafodd ein disgwyliadau o ran cyflenwi Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid sy’n help i ddenu pobl ifanc i gyfranogi a hyrwyddo’u cynnydd eu nodi gyntaf yn Ymestyn Hawliau: Cynorthwyo Pobl Ifanc yng Nghymru (2000) ac yna mewn cyfarwyddiadau a chanllawiau pellach yn 2002. Cafodd ymrwymiad parhaus i ostwng y nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ei nodi yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Cyhoeddwyd y cynllun hwn ym mis Gorffennaf 2013, ac mae’n gosod targedau i:

 

-          ostwng y nifer o bobl ifanc NEET 16-18 oed 9% erbyn 2017

-          lleihau’r gyfran o bobl ifanc 19-24 oed NEET yng Nghymru o’i chymharu â’r Deyrnas Unedig gyfan erbyn 2017.

 

 

Y DATA

 

Caiff y nifer a’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru eu cyhoeddi’n flynyddol yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur.  Mae’r datganiad yn darparu gwybodaeth am weithgareddau dysgu pobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru a’u statws yn y farchnad lafur ac mae wedi’i seilio ar ddata poblogaeth, y nifer o ddisgyblion ysgol, gwybodaeth am gofrestriadau mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, yn cynnwys dysgu seiliedig ar waith a chofrestriadau mewn Sefydliadau Addysg Uwch, ynghyd â data am weithgarwch economaidd o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

 

Mae’r siart isod yn dangos bod y gyfran o bobl ifanc 16-18 oed sy’n NEET wedi aros ar oddeutu 10 i 13 y cant er 1996, gan ostwng i 10 y cant ddiwedd 2013.  Cyn i’r dirwasgiad gychwyn yn 2008 roedd y gyfran o bobl ifanc 19-24 oed a oedd yn NEET yn sefydlog at ei gilydd.  Fodd bynnag, ar ôl i ddirwasgiad 2008 gychwyn gwelwyd cynnydd mawr yn y gyfran o bobl ifanc 19-24 oed a oedd yn NEET – cynyddodd o 17 y cant i lefelau o oddeutu 22 i 23 y cant o 2009 ymlaen, gan ostwng i 21 y cant yn y cyfnod diweddaraf.  Gellid dehongli felly fod dirwasgiad 2008 wedi cyfrannu at y lefelau uwch o bobl ifanc NEET ymysg y grŵp oedran 19-24 yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae’r siart yn dangos amcangyfrifon o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ynghyd â data’r Datganiad Ystadegol Cyntaf.

 

 

 

 

 

 

 

Pobl ifanc NEET yng Nghymru: Cymhariaeth o’r amcangyfrifon yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth1 (blwyddyn galendr)

 

 

(p) SFR (Datganiad Ystadegol Cyntaf): data dros dro am ddiwedd blwyddyn 2013

1Ar gyfer blynyddoedd 2001-2003, Arolwg Llafurlu Lleol Cymru yw’r ffynhonnell[1]

 

O ran diweithdra ymysg pobl ifanc, mae dwy ffynhonnell ddata, sef yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) Misol a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) chwarterol, sy’n cael ei ffafrio ac sydd yn gadarnach ond ei fod fymryn yn llai cyfredol.  Mae a wnelo’r wybodaeth isod â data hyd at (ac yn cynnwys) Mehefin 2014 o ran yr APS a data hyd at (ac yn cynnwys) Gorffennaf 2014 o ran yr LFS.

Mae’r ystadegau LFS yn dangos bod gan Gymru, hyd at fis Gorffennaf ac o ran y grŵp oedran 16-17, gyfradd diweithdra o 29.7 y cant gyda gostyngiad o 11.4 pwynt canran dros y flwyddyn o’i chymharu â chyfradd y DU o 36.3 y cant (gostyngiad o 4.3 pwynt canran dros y flwyddyn).  O ran y grŵp oedran 18-24 Cymru oedd â’r gyfradd diweithdra drydedd uchaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar 17.6 y cant (gostyngiad o 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn). 14.9 y cant oedd cyfradd diweithdra grŵp oedran 18-24 y DU ar gyfartaledd (gostyngiad o 4.5 pwynt canran dros y flwyddyn).

 

Mae canlyniadau’r APS hyd at fis Mehefin 2014 yn dangos bod diweithdra ieuenctid i’r grŵp oedran 16-24 drwyddo draw yn disgyn yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU.  Mae’r APS a’r LFS hefyd yn dangos bod y gyfradd yn uwch na chyfradd y DU.

 

 

 

LLEIHAU’R NIFER O BOBL IFANC NAD YDYNT MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NA HYFFORDDIANT

 

Y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

O ystyried y sialensiau economaidd sy’n ein hwynebu fel gwlad, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfleoedd gorau posibl yn bodoli i ymgysylltu â phobl ifanc a’u datblygu yng Nghymru.  Er bod y data’n dangos gwelliannau dros y blynyddoedd diwethaf, roedd angen edrych o’r newydd ar y ffordd yr ydym yn gweithredu er sicrhau gwelliannau pellach.  Mae Cynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid[2], a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2013, yn ceisio dod â phob elfen effeithiol i ostwng lefelau NEET ynghyd mewn un man.

 

Mae’r Fframwaith wedi’i adeiladu o amgylch anghenion pobl ifanc.  Ynddo, mae gwell argaeledd gwybodaeth yn galluogi’r person ifanc i weithredu fel defnyddiwr mwy pwerus yn y system ac mae atebolrwydd gwahanol asiantaethau i gyflawni gwell canlyniadau i bobl ifanc yn cael ei gryfhau.

 

Mae ein ffordd o weithredu wedi’i seilio ar chwe bloc adeiladu allweddol:

•           Nodi’r bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio.

•           Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth.

•           Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc.

•           Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc.

•           Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth.

•           Gwell atebolrwydd i sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc.

 

Mae’r Fframwaith yn nodi rôl Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill er cynyddu ymgysylltiad a chyflogaeth ieuenctid yng Nghymru.  Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a’r Cynllun Gweithredu yn anstatudol, ond maent yn ategu’r canllawiau presennol (Ymestyn Hawliau 2002) drwy ddarparu enghreifftiau o sut mae rhoi camau wedi’u targedu ar waith wrth ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid.  Yn sail i’r Fframwaith mae cynllun gweithredu dwy flynedd.

 

Tynnodd adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru[3] ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant sylw at y ffaith fod Llywodraeth Cymru “mewn sefyllfa dda i helpu i leihau nifer y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a dywedai bod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, o gael ei weithredu’n llwyddiannus, yn debygol o helpu i leihau nifer y bobl ifanc 16-18 oed sy'n NEET”.

 

Pwrpas y Fframwaith yw darparu mecanwaith systematig i awdurdodau lleol i ganfod y rhai y mae angen cymorth arnynt, i nodi’r cymorth sydd ar gael, ac i dracio cynnydd pobl ifanc wrth iddynt bontio o addysg i addysg bellach neu gyflogaeth.  Mae’r Fframwaith yn darparu’r strwythur i helpu awdurdodau lleol i sefydlu a yw’r ddarpariaeth leol a chenedlaethol yn sicrhau deilliannau effeithiol a gwerth am arian drwy fesur y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc NEET ar lefel leol.

 

Wrth galon y Fframwaith mae dau gynnig newydd. Y cyntaf yw cynnig gweithiwr arweiniol o fewn sefydliad perthnasol fel bod cymorth a chyswllt yn cael eu darparu’n ddi-dor i’r bobl ifanc sy’n fwyaf tebygol o ymddieithrio.  Yr ail yw datblygu Gwarant Ieuenctid ragweithiol sy’n golygu bod lle addas mewn addysg neu hyfforddiant yn cael ei gynnig i berson ifanc sy’n pontio am y tro cyntaf o addysg orfodol yn 16 oed, ac y caiff ei dderbyn a chael cychwyn ar y lleoliad. Rydym yn credu y bydd hyn yn darparu llwybr dilyniant clir i bob person ifanc, a hynny law yn llaw â gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd effeithiol i’w helpu i ddewis ar sail gwybodaeth, gan gefnogi eu dilyniant ôl-16.

 

Nid oes cost ychwanegol i weithredu’r Fframwaith.  Mae wedi’i fwriadu i helpu awdurdodau lleol i roi ffocws newydd i’w gwariant presennol yn sgil mapio’r ddarpariaeth i ganfod bylchau posibl, cydnabod unrhyw angen am ddarpariaeth nad yw’n cael ei ddiwallu ac, yn dra phwysig, cael gwared ag unrhyw ddyblygu a gorgyffwrdd yn y ddarpariaeth.

 

Rydym o’r farn mai’r awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i roi’r Fframwaith ar waith.  Cyflwynodd pob awdurdod lleol gynllun gweithredu ym mis Mawrth 2014, yn cadarnhau eu hymrwymiad i weithredu’r cerrig milltir sydd wedi’u nodi yng nghynllun gweithredu’r Fframwaith.  Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dadansoddi pob cynllun gweithredu gan ddefnyddio data dilyniant cyd-destunol, cyrchfannau ôl-16, chwarterol Gyrfa Cymru i ganfod risgiau cyflawni posibl a monitro cynnydd.  Mae’r dadansoddiad hwn wedi cael ei drafod gyda’r awdurdodau lleol yn ystod cyfarfodydd adolygu chwe misol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn darparu’r cymorth iawn i’r bobl ifanc hyn.

 

Sefydlwyd Gweithgorau Rhanbarthol, a hwylusir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o Gyrfa Cymru, Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Consortia Addysg Rhanbarthol, ysgolion a’r Trydydd Sector.  Mae’r gweithdai wedi’u sefydlu o gwmpas gwahanol feysydd y Fframwaith er mwyn rhannu profiadau, amlygu arferion da a helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu unrhyw arweiniad posibl sy’n ofynnol.

 

Mae gan yr awdurdodau lleol i gyd gyswllt arweiniol yn Llywodraeth Cymru sy’n gweithio’n agos gyda nhw i’w helpu i roi’r Fframwaith ar waith, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y cerrig milltir yn y cynllun gweithredu.  Mae gwerthusiad ffurfiol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.  Mae’r rhaglen werthuso wedi’i rhannu’n ddau gam; a bydd yn parhau tan 2018.  Bydd y cam cyntaf yn darparu tystiolaeth i ddangos pa mor effeithiol yw’r fframwaith yn hwyluso’r ffordd i awdurdodau lleol a’u partneriaid i ymgysylltu â phobl ifanc.  Gwerthusiad effaith o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctidfydd yr ail gam.

 

Gwella’r Cyswllt rhwng Addysg a Chyflogwyr

Fel rhan o elfen cyflogadwyedd y Fframwaith, rydym wedi ymrwymo i gryfhau cyswllt cyflogwyr ag ysgolion.  Nod prosiect Gwella Cyswllt Cyflogwyr fydd sefydlu ffyrdd mwy strategol, cydlynol a chynaliadwy o gynnal cysylltiadau rhwng addysg a chyflogwyr.  Bydd hynny’n help i baratoi pobl ifanc yn fwy effeithiol ar gyfer camu i fyd gwaith.  Rydym am gyflwyno ‘model partneriaeth’ mwy cyson a defnyddio’r model newydd i greu disgwyliadau newydd, ar lefel uwch, o ran cysylltiadau rhwng ysgolion a chyflogwyr ar draws ysgolion uwchradd yng Nghymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n arwain hefyd ar y gwaith o ddatblygu prosiect ESF a gaiff ei roi ar waith gan Gyrfa Cymru; prosiect a elwir yn ‘Symbylu’ch potensial’ (‘Activate your potential’).  Nod symbylu’ch potensial yw darparu mwy o weithgareddau a chyfleoedd yn gysylltiedig â chyflogwyr, a darparu gwybodaeth am yrfaoedd law yn llaw â hynny; a darparu cyngor ac arweiniad i bobl ifanc 11-19 oed.  Fel arfer bydd gan y bobl ifanc hyn batrymau presenoldeb, lefelau cyrhaeddiad, ymddygiad cyffredinol a sgiliau cyflogadwyedd ehangach sy’n golygu bod perygl iddynt ymddieithrio o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd

 

Mae Gyrfa Cymru’n darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd diduedd, dwyieithog, i bobl o bob oedran.  Mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau, cyfrifoldeb y maen nhw’n ei gyflawni drwy’r gwasanaethau a gyflenwyr gan Gyrfa Cymru.

 

Yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014, rhoddodd Gyrfa Cymru gefnogaeth i 3,794 o bobl ifanc i gamu i gyflogaeth, prentisiaethau neu gyfleoedd drwy Twf Swyddi Cymru:

 

·         roedd 826 o’r rhain yn bobl ifanc 16 i 18 oed

·         roedd 2,968 yn bobl ifanc 19 i 24 oed

 

Mae Gyrfa Cymru’n darparu gwasanaethau wedi’u targedu i gynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.  Mae Gyrfa Cymru’n hynod effeithiol yn helpu pobl ifanc i wneud yn dda yn eu bywydau.  Yn 2013-14 aeth 5,199 (neu 81%) o’r bobl ifanc ddi-waith 16-18 oed a oedd yn gweithio gyda Gyrfa Cymru ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a chyfeiriwyd 489 (8%) at asiantaethau eraill er mwyn rhoi sylw i rwystrau personol a nodwyd a oedd yn eu llyffetheirio.

 

Mae’r gweithredu hwn yn ategu’r agenda ehangach i Leihau Tlodi yng Nghymru.  Mae rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi cyfraniad Gyrfa Cymru yn hyn o beth - “The opportunity to work together (with Careers Wales) and access impartial careers advice has been hugely beneficial in our task of helping people into employment, particularly in respect of many of our customers who have never worked and who lack clear and realistic career aspirations”. (Huw Thomas, Rheolwr Partneriaeth Grŵp, Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau – Mehefin 2014)

 

Mae Gyrfa Cymru’n gweithio i gysylltu’n effeithiol â gwybodaeth ranbarthol am y farchnad lafur a chynlluniau datblygu economaidd.  “Careers Wales provides a clear consistency in terms of approach with schools; employer engagement; co-delivery with education partners on STEM and other regional priorities.”  (Iwan Thomas, Cyd-drefnydd Rhanbarthol Sgiliau a Chyflogaeth, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Gorffennaf 2014).

 

Rhaglen Hyfforddeiaethau

Rhaglen hyfforddiant, â statws anghyflogedig, yw’r Rhaglen Hyfforddeiaethau i bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth ôl-16 fel arall.  Mae’r Rhaglen yn cefnogi pobl ifanc i ennill cyflogaeth gyson drwy eu helpu i fagu hyder a magu cymhelliant.  Mae’r Rhaglen yn ceisio gwella lefelau sgiliau drwy ddarparu cymwysterau lefel mynediad hyd at Lefel 1 NVQ yn y maes galwedigaethol o’u dewis nhw.  Yn ei blwyddyn weithredol gyntaf, roedd 63 y cant o’r rhai a oedd yn ymadael yn gwneud hynny ar drywydd dilyniant positif (h.y. i gyflogaeth (yn cynnwys hunangyflogaeth neu waith gwirfoddol) neu ddysgu ar lefel uwch).  Ym mlwyddyn 2 (2012/13) mae’r ystadegau dilyniant yn dangos bod 67 y cant o’r ymadawyr wedi gwneud hynny ar drywydd dilyniant positif (h.y. i gyflogaeth (yn cynnwys hunangyflogaeth neu waith gwirfoddol) neu ddysgu ar lefel uwch). 

 

Bydd gwerthusiad dwy flynedd o Ddysgu Seiliedig ar Waith yn rhedeg tan 2015.  Bydd y gwerthusiad yn edrych yn benodol ar y Rhaglen Hyfforddeiaethau i geisio sefydlu a yw’n gweithredu fel y bwriadwyd iddi ai peidio, a bydd yn ystyried gwersi allweddol er datblygu’r rhaglen i’r dyfodol. 

 

Rhaglen Recriwtiaid Newydd

Mae’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd yn rhaglen i Gymru gyfan.  Mae’n darparu cymorth ariannol i gyflogwyr cymwys sy’n gallu cynnig rhaglen brentisiaeth safonol i recriwtio a hyfforddi prentisiaid ifanc ychwanegol (16-24 oed).  Mae’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd yn cynnig cymhorthdal o £50 yr wythnos i gyflogwyr am hyd at 52 wythnos yn gyfraniad at gyflog prentis.  Mae’r rhaglen wedi bod yn hynod lwyddiannus yn helpu i ddarparu Prentisiaethau ac rydym wedi rhagori ar ein haddewid yn ein Rhaglen Lywodraethu i gefnogi 4,000 o brentisiaid yn ystod 2013-15.

 

Prentisiaethau

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi Prentisiaethau yng Nghymru ac mae hon yn dal yn un o’i phrif raglenni.  Mae prentisiaethau yn ffordd o ennill cyflog a gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i fagu sgiliau penodol-i-swydd.  Mae Llywodraeth Cymru’n talu am elfen hyfforddi Prentisiaethau, a’r cyflogwyr yn gyfrifol am y costau cyflogi, pethau fel y cyflog.  Gall unrhyw gwmni yng Nghymru, waeth beth yw ei faint neu’i sector, weithio gyda’r rhaglen Brentisiaethau.  Un o amcanion allweddol y rhaglen yw cefnogi busnesau sy’n dymuno cyflogi prentis; drwy hynny mae’n darparu buddsoddiad i helpu busnesau i ddatblygu gweithlu medrus a chyfrannu at dwf economaidd.  Yng Nghymru, mae’r rhaglen, sy’n agored i bob oedran, wedi targedu cymorth at bobl ifanc 16 – 24 oed er mwyn sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd iawn rhwng diwallu anghenion pobl ifanc sy’n cychwyn yn y farchnad lafur a darparu opsiynau i oedolion.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfradd lwyddo’r Rhaglen Brentisiaethau wedi codi’n sylweddol gan gyrraedd mwy nag 80%.  Yn gefn i’r rhaglen mae Gwasanaeth Paru Prentisiaeth, cyfrwng ar-lein rhad ac am ddim i gyflogwyr a darpar brentisiaid fanteisio arno i hysbysebu swyddi Prentisiaeth gwag a gwneud cais amdanynt.

 

Twf Swyddi Cymru

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod lleihau nifer y bobl ifanc 19-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn fwy heriol.  Mae’r ystadegau’n dangos bod nifer o faterion yn effeithio ar hyn, yn arbennig ffactorau economaidd a chyflogaeth sy’n dod o dan gylch gwaith Llywodraeth y DU. 

 

Cafodd rhaglen Twf Swyddi Cymru, a lansiwyd ym mis Ebrill 2012, ei datblygu fel ymateb uniongyrchol i effaith anghymesur y lefelau diweithdra yr oedd pobl ifanc ar draws Cymru yn eu hwynebu.  Fe’i cyflwynwyd i greu swyddi i bobl ifanc sy’n ddi-waith ond yn barod i ymgymryd â swyddi.  Cafodd Twf Swyddi Cymru ei gynllunio i fynd i’r afael â mater allweddol sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt chwilio am waith, sef sut mae cael y profiad gwaith perthnasol sy’n ofynnol gan gyflogwyr i’w galluogi nhw i ganfod gwaith parhaol.  Mae Twf Swyddi Cymru nid yn unig yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ddi-waith ond mae’r swyddi hefyd yn rhai “ychwanegol”, sy’n helpu busnesau Cymru i dyfu.

 

Mae’r ffigurau diweithdra diweddaraf yn awgrymu bod Twf Swyddi Cymru yn cael effaith bositif ar leihau diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru, gan fod y gyfradd diweithdra yn disgyn yn gyflymach yng Nghymru nag mewn unrhyw ranbarth arall o’r DU.  Mae’r rhaglen bellach wedi creu dros 16,000 o gyfleoedd gwaith ac mae dros 12,700 o bobl ifanc yn llenwi’r swyddi hyn.  Mae Twf Swyddi Cymru wedi rhagori ar y targed o lenwi 12,000 o gyfleoedd gwaith dros dair blynedd, a hynny ynghynt na’r amserlen benodedig.

 

Polisi Sgiliau

Ar 30 Ionawr 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Datganiad Polisi ar Sgiliau a oedd yn amlinellu’r sialensiau mawr sy’n wynebu cyflogaeth a sgiliau ôl-19 yng Nghymru dros y degawd nesaf.  I fynd i’r afael â’r sialensiau hyn, cynhyrchwyd Cynllun Gweithredu ar gyfer Sgiliau ym mis Gorffennaf.

 

Mae’r cynllun yn nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol ym maes polisi er mwyn datblygu system sgiliau gynaliadwy i’r dyfodol.  Ei nod yw helpu Cymru i ddatblygu’n wlad â sgiliau medrus a chreu’r amodau a fydd yn caniatáu i fusnesau yng Nghymru dyfu a ffynnu.  I gyflawni’r nod hwn mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod rhaid wrth weithredu cyfrifol gan lywodraeth, cyflogwyr, darparwyr ac unigolion, yn enwedig o safbwynt buddsoddi mewn sgiliau.

 

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu cyflogaeth a sgiliau integredig a hygyrch ar draws Cymru.  Er enghraifft, bydd y Porth Sgiliau newydd yn hwyluso mynediad at gymorth ynglŷn â chyflogaeth a sgiliau i gyflogwyr ac unigolion.  Mae’r cynllun hefyd yn nodi sut byddwn yn cryfhau’r drefn i gyflenwi sgiliau’n rhanbarthol, gan adeiladu ar y strwythurau rhanbarthol sy’n bodoli ar draws Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur a phartneriaid cyflawni i roi’r cynllun hwn ar waith a gwireddu system sgiliau gynaliadwy a chystadleuol i Gymru.

 



[1] Bwletin Ystadegol  Pobl Ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET (Blwyddyn hyd at 31 Rhagfyr2013)

[2] Cynllun Gweithredu'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

[3] Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant